Mae dros 700 o ferched wedi cysylltu gyda swyddogion iechyd yn y de, ers iddyn nhw gael gwybod eu bod wedi eu trin gan weithiwr iechyd sy’n cario’r feirws Hepatitis C.

Cafodd tua 5,000 o ferched gynnig profion wedi iddi ddod i’r amlwg bod geinocolegydd fu’n gweithio mewn ysbytai o 1984 i 2003 gyda’r clefyd.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan mae’r perygl o fod wedi dal yr haint yn isel.

Bu’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd gynnig y profion i’r merched wedi iddi ddod i’r amlwg bod y geinocolegydd, sy’ bellach wedi ymddeol, wedi cael prawf Hepatitis C, gyda’r canlyniad yn un positif.

Mae cyn-gleifion wedi derbyn llythyr am y risg o Hepatitis C, ond hefyd mae llinell gymorth i ferched sy’n poeni, sef 0845 46 47.