Fe fu 4,000 o redwyr yn cymryd rhan yn ras 10k Caerdydd yn y brifddinas ddoe.

Matthew Kimutai o Kenya, oedd y rhedwr buddugol ,gan gwblhau’r ras mewn amser o 29:04 a merch o’r Amwythig, Rachel Felton, oedd y rhedwraig gyflymaf i orffen mewn amser o 33:27.

Record Byd

Yn y category dros 60, Martin Rees, dyn o Bort Talbot, oedd yr enillydd gan osod record byd drwy gwblhau’r ras mewn 32:48.

Mae’n aelod o glwb rhedeg Les Croupiers yng Nghaerdydd, ac fe lwyddodd i dorri ei record bresennol o 32:56. Fo hefyd sydd wedi gosod record byd ar gyfer 5k, 5 milltir, 10k, 10 milltir a phellter hanner marathon i ddynion dros 60 oed.

Yn ôl llefarydd dros Athletau Cymru, Tim Lewis: “Roedd y gynulleidfa wrth eu boddau yn gweld Cymro yn gosod record byd arall.”