Mae Heddlu Prydain wedi rhybuddio cefnogwyr tîm pêl-droed Lloegr i beidio â dial yn dilyn ymosodiad gan gefnogwyr tîm Ukraine ar dri pherson o Loegr.

Roedd oddeutu 30 o gefnogwyr tîm Ukraine wedi ymosod ar rai o gefnogwyr Lloegr mewn siop goffi yng nghanol y brif ddinas, Kiev, nos Sul gan achosi anafiadau i dri pherson.

Mae’n ymddangos bod y tri a gafodd eu hanafu wedi gadael yr ysbyty ac yn gwrthod rhoi cymorth i’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

Mae disgwyl i oddeutu 2,000 o gefnogwyr Lloegr fynychu’r gêm nos Fawrth yn Stadiwm Olympaidd Kiev. Mae heddlu yn y brif ddinas yn adrodd bod yr awyrgylch yn hamddenol.

Dywedodd pennaeth dirprwyaeth Heddlu Prydain yn Kiev, Richard Barber eu bod yn ymwybodol o’r ymosodiad a bod nifer o swyddogion yr heddlu yn cadw llygad ar fariau i sicrhau nad oes unrhyw drafferthion. Meddai, “Rydym yn annog cefnogwyr i fwynhau eu hunain ac i wneud hynny’n gyfrifol, heb greu gofid i unrhyw un.”

Dywedodd llefarydd o’r Swyddfa Dramor, “Rydym yn ymwybodol bod trafferth wedi bod yn Kiev yn ymwneud a  Phrydeinwyr. Rydym yn darparu cymorth consylaidd.”