Craig Bellamy - meddwl mynd
Mae chwaraewr mwya’ profiadol Cymru wedi awgrymu y bydd yn ymddeol o bêl-droed ddiwedd y tymor yma.

Roedd disgwyl y byddai Craig Bellamy’n rhoi’r gorau i chwarae i Gymru ar ôl tair gêm arall ond mae’n awr yn sôn am roi’r gorau i’r cyfand.

Un o’r problemau mwya’, meddai, yw ei fod yn gorfod gofalu am ei blant ac yn ei chael yn anodd i roi sylw iddyn nhw.

“Efallai y bydda’ i’n newid fy meddwl,” meddai Craig Bellamy, “ond fel yr ydw i’n teilmo ar hyn o bryd, efallai mai dyma fy nhymor ola’ yn chwarae pêl-droed.”

Gobaith i Gymru

Ac yntau’n 34 oed, fe enillodd y blaenwr ei 75ed cap yn y golled yn erbyn Macedonia nos Wener ond, er hynny, mae’n credu fod gan Gymru ddyfodol disglair gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Jonathan Williams.

Ond fe fyddai cario ymlaen i chwarae i Gymru yn golygu atal chwaraewr iau rhag cael profiad gwerthfawr cyn yr ymgyrch fawr nesa’, meddai.

Y bwriad yn y pen draw fyddai mynd yn rheolwr ond, cyn gwneud hynny, fe fyddai’n teithio’r byd i ddysgu’r grefft.

Meddai Bellamy

“Mae’n anodd,” meddai Craig Bellamy. “Dw i’n rhiant sengl nawr a dw i’n cael brwydr fawr i weld fy mhlant bob dydd. Mae’n galed iawn.

“Wedyn, mae angen bod i ffwrdd am ddeg diwrnod. Nid fi yw’r unig dad sydd wedi bod trwy hyn ond, os ydych chi wedi cael y profiad, yna fe fyddech chi’n deall.

“Mae fy hwyliau’n gallu newid … mi allwn i newid fy marn. Ond fel rwy’n teimlo’n awr, efallai mai dyma fy nhymor ola’ o bêl-droed.”