Benetton Treviso 19–24 Gweilch
Dechreuodd y Gweilch y tymor newydd yn y RaboDirect Pro12 gyda buddugoliaeth mewn gêm agos yn erbyn Treviso yn y Stadio Monigo nos Sadwrn.
Roedd hi’n bell o fod yn glasur yn yr Eidal ond roedd ceisiau Scott Baldwin a Ben John ynghyd â chicio cywir Dan Biggar yn ddigon i sicrhau pedwar pwynt i’r rhanbarth o Gymru.
Hanner Cyntaf
Treviso a gafodd y gorau o ddeg munud cyntaf di sgôr cyn i ganolwr y Gweilch, Andrew Bishop, dderbyn cerdyn melyn am drosedd yn ardal y dacl.
Llwyddodd Alberto Di Bernardo gyda’r gic gosb ganlynol ond roedd pedwar dyn ar ddeg y Gweilch yn gyfartal ddau funud yn ddiweddarach gyda chic gosb gyntaf Dan Biggar o’r tymor newydd.
Tro Treviso i chwarae gydag un yn llai oedd hi wedyn pan dderbyniodd y prop, Leonardo Ghiraldini, gerdyn melyn a manteisiodd y Gweilch yn llawn gan sgorio trosgais.
Tiriodd y bachwr, Scott Baldwin, yn dilyn lein bum medr a sgarmes symudol cyn i Biggar drosi cic anodd o’r ystlys.
Ond dim ond pwynt oedd ynddi ar yr egwyl wedi i Di Bernardo ychwanegu dwy gic gosb arall yn neg munud olaf yr hanner, 10-9 i’r Gweilch wedi deugain munud.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda chic gosb o droed Di Bernardo ac roedd yr Eidalwyr yn ôl ar y blaen.
Ond ymatebodd y Gweilch a Biggar gyda gôl adlam i roi’r Cymry yn ôl ar y blaen gyda hanner awr i fynd.
Yna, toc cyn yr awr daeth y cymal gorau o chwarae trwy gydol y gêm gydag ail gais y Gweilch. Hawliodd yr asgellwr, Ben John, y bêl o gic uchel y mewnwr, Tito Tebaldi, cyn sgorio yn y gornel.
Methodd Biggar y trosiad ond llwyddodd gyda’i ail gôl adlam bum munud yn ddiweddarach i roi naw pwynt rhwng y ddau dîm.
Wnaeth Treviso ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ac roeddynt yn ôl o fewn un sgôr yn fuan wedyn diolch i gais yr eilydd flaenasgellwr, Simone Favaro. Cais digon tebyg i gais cyntaf y Gweilch oedd hwn, llinell ymosodol a sgarmes symudol.
Cafwyd diweddglo nerfus felly, hyd yn oed wedi i Biggar lwyddo gyda chic gosb arall i ymestyn y fantais i bum pwynt. Ond daliodd amddiffyn y Cymry yn ddewr i selio buddugoliaeth oddi cartref dda i ddechrau’r tymor hwn yn dipyn gwell na’r tymor diwethaf.
.
Treviso
Cais: Simone Favaro 66’
Trosiad: Alberto Di Bernardo 67’
Ciciau Cosb: Alberto Di Bernardo 12’, 34’, 38, 47’
Cerdyn Melyn: Leonardo Ghiraldini 22’
.
Gweilch
Ceisiau: Scott Baldwin 22’, Ben John 56’
Trosiad: Dan Biggar 24’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 14’, 72’
Gôl Adlam: Dan Biggar 50’, 62’
Melyn: Andrew Bishop 11’
.
Torf: 4,387