Cyngor Gwynedd
Ni ddylai ad-drefnu llywodraeth leol beryglu polisi iaith Gwynedd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith wrth iddyn nhw ymateb i gomisiwn a sefydlwyd i ystyried dyfodol cynghorau sir.

Yn yr ymateb i’r Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n edrych ar leihau nifer y cynghorau sir yn y wlad, dywed y grŵp pwyso y dylid sicrhau bod rhagor o gynghorau sir yn gweinyddu’n fewnol trwy’r Gymraeg megis Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Ar hyn o bryd, Gwynedd yw’r unig awdurdod lleol lle mae’r holl waith mewnol yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Argymhellion

Ymysg argymhellion eraill y Gymdeithas, dywed y mudiad bod angen:

  • cryfhau ac adfywio democratiaeth yn enwedig ar lefel leol iawn megis cynghorau cymuned a’u rôl yn y system gynllunio;
  • cywiro diffygion y system gynllunio a’i heffaith ar y Gymraeg gan ei seilio ar anghenion lleol;
  • pwysigrwydd gwasanaethau lleol i hyfywedd cymunedau a’r Gymraeg;
  • cryfhau hawliau gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • a’r angen i ddelio â methiannau dirfawr awdurdodau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

‘Ystyried yr effaith ar y Gymraeg’

Yn ei ymateb i’r Comisiwn medd y mudiad: “Er i ni anghytuno gyda natur y ddadl am ganoli gwasanaethau … cydnabyddwn fod pwysau gwleidyddol anferth bellach dros uno awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill…

“Gofynnwn, os bydd penderfyniad i fynd ar hyd y trywydd hwnnw, y dylid … ystyried yr effaith ar y Gymraeg fel iaith gweinyddu mewn unrhyw newid; ni ddylai unrhyw newidiadau tanseilio polisi iaith Gwynedd.

“Dylai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd drwy symud at weinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth ystyried ad-​drefnu llywodraeth leol, dylid sicrhau bod rhagor o awdurdodau lleol yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid sefydlu tasglu dan adain Comisiynydd y Gymraeg i symud y broses hon yn ei blaen.”

‘Gorfodaeth i weithio yn Saesneg’

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n hollbwysig bod y Comisiwn yn ystyried effaith unrhyw newidiadau ar y Gymraeg. Mae nifer o siroedd eisoes yn gorfodi eu staff sy’n medru’r Gymraeg i weithio trwy gyfrwng y Saesneg.

“Er bod canran uchel iawn o staff Cynghorau Ceredigion, Sir Gâr ac Ynys Môn yn medru’r Gymraeg, mae gorfodaeth arnynt i weithio yn Saesneg. Yn y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus mae diwylliant o wneud popeth yn Saesneg, gan gyfieithu i’r Gymraeg yn achlysurol.

“Er mwyn gwireddu hawl sylfaenol pawb i weithio ac i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, mae’n rhaid symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg yn rhagor o sefydliadau.”