John Kerry
Fe fydd  Ysgrifennydd Gwladol America John Kerry yn parhau gyda’i ymdrechion i gael cefnogaeth i ddefnyddio grym milwrol yn Syria wrth iddo gynnal trafodaethau gyda’r Ysgrifennydd Tramor William Hague.

Mae John Kerry yn Ewrop i geisio sicrhau cefnogaeth wrth i’r Arlywydd Barack Obama ddwysau ei ymdrechion i ddarbwyllo’r Gyngres i gefnogi ymyrraeth “cyfyngedig a phenodol” yn Syria.

Mae disgwyl i Barack Obama wneud darllediad teledu yfory, ar drothwy’r bleidlais yn y Senedd.

Ond yn ôl arolygon barn, mae Obama yn wynebu her i gael cefnogaeth y Gyngres i’w fwriad i ddefnyddio grym milwrol mewn ymateb i’r ymosodiad arfau cemegol yn Namascus ar 21 Awst.

Dywedodd William Hague bod America’n “siomedig” gyda methiant David Cameron i sicrhau cefnogaeth Aelodau Seneddol ond eu bod yn “ymrwymedig” i’r “berthynas arbennig” rhwng Prydain a UDA.