Mae dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad yng Nghasnewydd nos Fawrth diwethaf pan gafodd gwn peled ei danio.

Yn y digwyddiad, mi wnaeth gwn peled gael ei saethu o un car at gar arall a achosodd i’r car arall gael damwain ger tafarn Cross Hands ar Ffordd Cas-gwent.

Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau un dyn 24 oed sy’n byw yn lleol, ac maen nhw’n parhau i holi dyn 22 oed.

Derbyniodd un dyn anaf i’w ben ar ôl i’r gwn peled gael ei danio tra cafodd dyn arall man anafiadau o ganlyniad i’r damwain car. Roedd y ddau yn teithio yn y car a gafodd y ddamwain. Derbyniodd ferch oedd yn teithio yn yr un car anaf i’w chefn.

Dywed yr heddlu fod dau ddyn o Gaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau.

Mae’r heddlu  yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio’r rhif 101. Maen nhw hefyd yn parhau i chwilio am gerbyd 4×4 lliw tywyll oedd yn cael ei yrru ar hyd Ffordd Cas-gwent tuag at ffordd Beechwood am 11.30 nos Fawrth, yr un adeg â’r digwyddiad.