Heini Gruffudd
Siân Sutton, golygydd Golwg, sy’n arwain y drafodaeth am Lyfr y Flwyddyn:

12:00 – Mae Heini Griffith yn synnu ei fod wedi ennill y teitl. Doedd o ddim yn sgwennu hefo’r syniad yn ei ben o gystadleuaeth a doedd o ddim yn meddwl fod ei lyfr yn ffitio’r mowld.

Mae’n sôn ei fod yn werthfawrogol o’r gydnabyddiaeth i’r gwaith. Y wobr am ennill wedi bod yn ddefnyddiol iawn – wedi talu am ystafell folchi newydd!

Siân yn gofyn pa mor ymwybodol oedd HG am genfdir Almaeneg ei deulu a’u dioddefaint dan y Natsïaid pan oedd o’n tyfu i fyny?

Fel plentyn, doedd HG ddim yn ymwybodol iawn o hynny na’n cwestiynu ei gefndir a doedd dim llawer o drafod ar yr aelwyd. Roedd o’n gwybod rhai ffeithiau cyffredinol ond ymhell o’r manylder sydd ganndo heddiw.

Ar ôl i’w fam farw y dechreuodd y manylion ddod i’r amlwg. Mewn pentwr o bapurau yn y tŷ y darganfyddodd fod aelodau o’i deulu yn perthyn i wahanol safbwyntiau yn yr Almaen. Mi wnaeth wynebu tomen y deunydd a dod ag atgofion a ffeithiau at ei gilydd ei gyffroi a’i ysgogi i wneud rhywbeth yn eu cylch.

Bu’n esgus am lawer trip i’r Almaen, ond doedd ddim yn hawdd mynd draw yno – cymysgedd o ail-gysylltu hefo teulu coll ond y cyfan yn hynod o emosiynol. Anodd iawn iddo ddygymod efo’r erchyllterau y bu raid i’w deulu eu diodde’ dan y Natsïaid.

Yn y llyfr, mae o’n ceisio darlunio sefyllfa ei fam yn darganfod ei hun yn y Rhondda ac yn mabwysiadau diwylliant ac iaith newydd yn llwyr. Am ei bod hi’n alltud, falle ei bod hi wedi ymroi i ffurfio cymdeithas newydd o’i chwmpas, cymdeithas Gymraeg. Cafodd  fywyd llenyddol newydd yng Nghymru ac mae o eisio i Gymru ymfalchïo yn hynny – falle na fydde hi wedi cael y cyfle a gafodd i flaguro yn llenyddol yn yr Almaen.

Roedd angen sawl ‘cic’ arno i gofnodi’r hanes! Mae o wedi cael boddhad mawr wrth iddo dyfu i fyny gweld y darnau yn disgyn i’w lle a dod i ddallt sefyllfa gymhleth, erchyl .

Y drafodaeth yn troi at yr helynt hefo cosbi hen Natsïaid y dyddiau hyn. Mae 60 o flynyddoedd wedi bod ers eu troseddau. Does dim cosb fyddai’n ddigon addas i’r hyn wnaethon nhw fel rhan o’r system fwyaf dieflig mae’r byd erioed wedi ei weld. Gwell ganddo os byddai ysbryd o ddealltwriaeth a maddeuant yn cael ei ymarfer – fel y cymodi agored ddigwyddodd o dan Nelson Mandela yn Ne Affrica. Mae’n ofni nad yw’r byd wedi dysgu dim ers hynny – sefyllfa Syria yn dod i’w feddwl.

Mae’n sôn am ymosod ar Syria a chreu llanast diangen. Os oes gwers i’w dysgu o hanes yr Almaen – heddwch ydi o.

Am fwy o flas yr ŵyl, ewch i flog Gwenllian ar y wefan hon.