Gŵyl Golwg – Dydd Sadwrn

10:30 – Dwi’n cyrraedd yr Ŵyl. Mae hi’n dechrau bwrw ond nid yw hynny wedi atal pobol rhag dod draw – mae’r maes parcio bron yn llawn a neuadd Wcw i’w gweld dan ei sang gyda’r plant yn neidio a dawnsio o gwmpas y lle.

Dwi’n cerdded rhwng y coed helyg tuag at y Stafell Sgwrsio – lleoliad hamddenol a chartrefol, perffaith i gynnal yr Ŵyl.

10:45 – Lluniau mawr o gloriau trawiadol a lliwgar Golwg yn fy nghroesau wrth imi gerdded i mewn i’r Stafell Sgwrsio. Maen nhw’n atgoffa rhywun o ddigwyddiadau amrywiol Cymreig y blynyddoedd diwetha’ – barod i wrando ar sgwrsio’r dydd.


Dafydd Hywel Llun:Marian Delyth
Dafydd Hywel yn sgwrsio

11:00 – Mae Non Tudur yn cyflwyno’r actor o Ddyffryn Aman, Dafydd Hywel sy’n cael ei gyfweld gan Alun Wyn Bevan. Y ddau yn eistedd ar gadeiriau patrymog, cyfforddus yr olwg ar flaen yr ystafell ddarlithio, yn barod i fynd.

Mae Alun Wyn Bevan yn sôn nad ydi o bron yn credu fod DH wedi cytuno i sgwennu hunangofiant. Ei ateb oedd bod Densil o Bobl y Cwm wedi gwneud, felly pam ddim! Mae’r berthynas agos a hwyliog rhwng y ddau yn amlwg.

DH yn sôn ei bod yn drueni bod gymaint o Saeson yn ei ardal enedigol, Dyffryn Aman – nid ei ddyffryn o ydio bellach. Mae’n dweud fod naws y lle wedi mynd, fysa fo ddim hyd yn oed yn lansio ei hunangofiant yno fel mae pethau.

Mae’n darllen darnau o’i hunangofiant. ‘Baneri a bunting’ yw enw un bennod lle mae o’n sôn am halibalŵ paratoadau priodas frenhinol Charles a Diana. Ceisiodd fynd ar wyliau i Bortiwgal i osgoi’r dathlu, ond pan gyrhaeddodd y teulu yn ôl roedd eu tŷ wedi ei orchuddio hefo baneri a bunting.

DH yn dweud fod gwell ganddo wneud ffilmiau na theledu – mae’r camera yn gweld tu ôl i’r llygaid ac yn gwybod os ydach chi’n dweud celwydd. Roedd ffilmio Richard Burton hefo Richard Harrington yn y Swistir, daeth o i licio Richard Burton. Y peth gorau mae o wedi ei wneud erioed, actio ei wncwl yn y ffilm. Daeth o’n agos at y cast a theulu Richard Burton.

Sa fo’n licio iddo gael ei gydnabod fel Richard Jenkins yn hytrach na Burton.

“Wedi bod yn siwrne dda iawn.”

Y Babell Roc

Pabell binc a glas wedi ei gosod ar lan yr afon – awyrgylch hynod o hamddenol.

13:30 – Siddi yn chwarae set gwerinol. Mae gan y grŵp yma ddawn hudolus i wneud i gynulleidfa wrando – bron oeddwn i’n gallu clywed llif yr afon yn ystod rhannau distaw’r sesiwn. Roeddwn i’n teimlo fod y set yn gyflawn yn hytrach nag yn ddetholiad o ganeuon, fel sydd i’w gael gan ambell i  fand arall.