Mark Williams
Mae cyn-filwr gyda chatrawd Frenhinol Cymru wedi ei benodi yn rheolwr newydd Stadiwm y Mileniwm ar ran Undeb Rygbi Cymru.
Bu Mark Williams, sy’n 42 oed, ac yn dod o Lyn Nedd, yn gwasanaethu yn y fyddin am ugain mlynedd gan dreulio cyfnodau yn Kosovo, Bosnia ac Irac, lle cafodd ei anrhydeddu am ei wasanaeth.
Bydd Mark Williams yn gyfrifol am holl weithredoedd Stadiwm y Mileniwm gan ymuno Bwrdd Rheoli Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddarach yn y mis.
Cafodd ei gyflwyno fel rheolwr newydd Stadiwm y Mileniwm heddiw mewn digwyddiad arbennig.