Chris
Chris Coleman - yn hapsu gyda Gareth Bale
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi canmol Gareth Bale am ei agwedd trwy ddod yn ôl yn syth o Real Madrid i ymuno â’r garfan ryngwladol.

Ac mae wedi pwysleisio nad oedd unrhyw broblem gyda’r clwb chwaith wrth gael chwaraewr druta’r byd i gynrychioli Cymru.

Ond mae hefyd wedi gwneud yn glir na fydd Bale yn chwarae 90 munud llawn yn yr un o’r ddwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd – ym Macedonia nos Wener ac yn erbyn Serbia gartre’ nos Fawrth.

Mae Chris Coleman yn gobeithio y bydd y chwaraewr canol cae ymosodol yn gallu cymryd rhan ond fe fydd ei bresenoldeb yn ddigon i godi ofn, meddai.

Roedd cael chwaraewr o safon Bale yn ddigon i wneud dimau eraill feddwl ddwywaith ac yn rhoi hyder mawr i’w dîm ei hun, meddai.

‘Esiampl’

Roedd agwedd Gareth Bale yn esiampl i chwaraewyr eraill, meddai Chris Coleman, yn enwedig o gofio ei fod newydd gael ei drosglwyddo i Real Madrid am £85 miliwn.

“Ro’n i eisoes wedi siarad gydag e’r diwrnod cynt ac fe ddywedodd wrtha’ i ei fod yn hedfan i Madrid ar gyfer y dadorchuddio a, phan oedd hynny drosodd, y byddai’n neidio ar awyren a dod yn syth yn ôl.”

Yn ôl Coleman, roedd wedi cadw ei air i’r llythyren.