Michael Laudrup
Mae Abertawe wedi cytuno i arwyddo’r blaenwr Alvaro Vazquez ar fenthyg o dîm Getafe am dymor, gyda’r bwriad o wneud y cytundeb yn barhaol yn y pen draw.
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, wedi bod yn chwilio am ymosodwr arall ac fe ddywedodd ar y teledu neithiwr ei fod yn ffyddiog o fachu un.
Mae Alvaro Vazquez yn 22 oed ac wedi bod yn rhan o sgwad o dan 21 tîm rhyngwladol Sbaen gan helpu’r tîm i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Ewrop yn gynharach eleni.
Mae’n ymddangos fod Alvaro Vazquez yn awyddus i symud o Getafe i Abertawe ar ôl cyfnod anodd gyda’r clwb yng nghyngrair La Liga.
Sylwadau Huw Jenkins
Dywedodd Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins fod arwyddo Alvaro Vazquez yn benderfyniad doeth, “Mae Michael yn adnabod y chwaraewr yn dda iawn ac wrth bwyso a mesur yr holl sydd gennym yn y sgwad, mae chwaraewr ifanc sydd gyda potensial ac eisioes yn chwarae’n dda yn Sbaen, yn dda o beth i ni ar hyn o bryd.”
Mae’n anhebygol y bydd Abertawe yn arwyddo mwy o chwaraewyr cyn i’r amser cyfnewid chwaraewyr gau am 11.59pm.