Llun - o wefan y cwmni
Fe fydd canolfan newydd yng Nghasnewydd yn hyfforddi 1400 o beirianwyr ar gyfer y diwydiant hedfan ac amddiffyn.

Fe gyhoeddodd cwmni EADS, sy’n berchnogion ar Airbus, y bydd canolfan hyfforddi Testia “yn rhan ganolog o’u gwaith”.

Mae’r datblygiad, meddai EADS – yr European Aeronautic Defence and Space Company, yn tanlinellu ymrwymiad y cwmni i’r Deyrnas Unedig ac “i Gymru yn arbennig”.

Technoleg NDT

Fe fydd y ganolfan yn hyfforddi peirianwyr i ddefnyddio dulliau ‘di-ddinistr’, NDT, o astudio deunyddiau o bob math – mae’n gynnwys pethau fel technoleg sonar neu laser, sy’n gallu dadansoddi deunydd heb amharu arno.

Yn ôl y cwmni, roedden nhw wedi dewis Casnewydd oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth da a’r ffaith fod cronfa o sgiliau yn y maes yn ne Cymru.

Fe fyddan nhw’n derbyn prentisiaid yn syth o’r ysgol ac yn recriwtio o brifysgolion hefyd.

Mae un arall o is-gwmniau EADS, Cassidian, yn rhannu’r adeilad yng Nghasnewydd – mae hwnnw’n rhan o’r consortiwm sy’n adeiladu awyren ryfel yr Eurofighter.

Croesawu’r newyddion

Mae arbenigwr ar y diwydiant aerofod wedi croesawu’r newyddion gan ddweud y byddai’n  help i gadw pobol ifanc yng Nghymru.

“Mae hyn yn newyddion gwych i ddiwydiant peirianneg Cymru,” meddai Huw Brassington, a astudiodd  Beirianneg Aerofod ym Mhrifysgol Caerfaddon ac sydd bellach yn ddarlithydd Peirianneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor:

“Mae gweithio yn y maes fel arfer yn golygu bod rhaid symud i ffwrdd felly mae cael rhywle yng Nghymru i fyfyrwyr fynd i feithrin eu gallu, yn grêt.”