Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cyfarfod heddiw i drafod cynnig i wahardd ysmygu’n llwyr mewn canolfannau iechyd o Hydref 1.

Mae’r staff eisoes wedi eu gwahardd rhag ysmygu ar safleoedd y bwrdd iechyd, ond mae cleifion ac ymwelwyr yn cael ysmygu mewn mannau penodedig.

Yn ôl Dr Sharon Hopkins, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd: “Mae mwyafrif y cyhoedd a’r cleifion wedi cefnogi’r bwriad ond mae’n fwy anodd i bobl sy’n ysmygu’n drwm.”

Mae pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad llwyr ar ysmygu ar eu safleoedd.

Mae Cynllun Gweithredol Llywodraeth Cymru ar Dybaco yn anelu i leihau nifer y bobl sy’n ysmygu o 16% erbyn 2020.