Ysgol Pwll Coch yn Nhreganna
Mae Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Caerdydd yn cwrdd heddiw i drafod penderfyniad cabinet y Cyngor i beidio sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Grangetown, Caerdydd.
Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sêl bendith a chyllid i’r cynllun, mae’r cyngor yn ymgynghori ar gynlluniau i ymestyn Ysgol Pwll Coch, yn Nhreganna. Dywed ymgyrchwyr nad oes lle i ehangu ar y safle.
Mae’r safle oedd wedi cael ei ystyried ar gyfer yr ysgol Gymraeg bellach yn cael ei ystyried ar gyfer ysgol Saesneg newydd.
Ymhlith y rhaid fydd yn cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor, mae rhieni lleol, aelodau Ymgyrch TAG (Trebiwt a Grangetown), cyfreithiwr mygedol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Pwll Coch.
Gwyrdroi’r cynnig presennol
Meddai Huw Williams, Ysgrifennydd Ymgyrch TAG: “Mae’r cyfarfod hwn yn eithriadol bwysig o safbwynt yr ymgyrch, ac rydym yn mawr obeithio bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn cyfeirio’r penderfyniad diffygiol a ffeithiol wallus hwn yn ôl at y cabinet ar sail y sgil-effeithiau afresymol ac anghymesur y byddai’n ei gael ar deuluoedd Grangetown a Threbiwt.
“Hyderwn y bydd hynny’n ysgogi’r cabinet i wyrdroi’r cynnig presennol a dychwelyd at y cynllun gwreiddiol o sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn Grangetown i wasanaethu teuluoedd o fewn eu cymuned leol.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Caerdydd.