Michael Le Vell yn ei rol fel Kevin Webster yn Corrie
Fe fydd merch sy’n honni iddi gael ei threisio gan yr actor yn Coronation Street, Michael Le Vell, yn cael ei chroesholi gan ei fargyfreithiwr heddiw.
Ddoe, roedd y ferch yn ei dagrau wrth iddi ddweud wrth y rheithgor yn Llys y Goron Manceinion bod yr actor wedi ei threisio wrth iddi afael mewn tedi.
Mae’r actor, sy’n defnyddio ei enw iawn Michael Turner, wedi pledio’n ddieuog i bum achos o dreisio’r ferch ifanc.
Mae Michael Le Vell, sy’n cymryd rhan Kevin Webster yn y gyfres sebon, hefyd yn gwadu tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol a phedwar arall yn ymwneud â gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn.
Fe ddechreuodd yr achos yn Llys y Goron Manceinion ddoe.
Mae’r actor 48 oed wedi bod yn y gyfres deledu ers 30 mlynedd ond fe gafodd y rheithgor rybudd gan y Barnwr mai Michael Turner oedd ar brawf nid ei gymeriad yn y ddrama.
Mae darlledwyr Corrie, ITV, yn dweud na fydd yn cael ymddangos eto nes y bydd yr achos llys ar ben.