Mae arolwg o athrawon a phrifathrawon yng Nghymru yn dangos bod 74% yn credu bod y newidiadau ym myd addysg wedi cael effaith negyddol.
Mae tri chwarter o’r 941 oedd wedi ymateb i’r arolwg gan atodiad addysg y Times (TES) yn dweud rhai mesurau fel bandio wedi “lleihau ysbryd a chymhelliad”.
Gofynnodd yr arolwg os oedd y system fandio newydd, sy’n rhoi ysgolion uwchradd mewn pum categori sy’n ddibynnol ar ffactorau fel canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion – wedi gweithio. Roedd 73.2% o athrawon a 75% o brifathrawon o’r farn nad ydi’r system newydd wedi gwella safonau mewn ysgolion.
Daw hyn ar ôl i brofion darllen cenedlaethol mathemateg gael eu cyflwyno i’r system addysg yn y gobaith o godi safonau.
Cefnogaeth gan awdurdodau Cymru
Dangosodd yr arolwg fod lefelau gwahanol o gefnogaeth gan 22 o awdurdodau lleol Cymru. Yn ôl 25.1% o athrawon, mae’r awdurdodau yn methu a darparu cefnogaeth i ysgolion gyda 10% yn dweud nad ydyn nhw’n cyd-weithio gyda’i awdurdod lleol o gwbl.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd mwy o gefnogaeth yn cael ei gynnig i athrawon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae addasu i unrhyw gynllun newydd yn cymryd amser ac nid yw’r system addysg yn eithriad. Sut bynnag, mae bandio yn parhau wrth galon ein cynllun i wella safonau mewn ysgolion. Mae’n rhoi darlun clir i ni a rhieni ar draws Cymru sut mae’n ysgolion yn perfformio.
“Rydym am weithio gydag awdurdodau lleol ac athrawon Cymru i sicrhau fod myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn addysg o’r safon uchaf. ”