William Roache
Mae actor Coronation Street William Roache wedi pledio’n ddieuog i droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn pump o ferched.

Roedd yr actor 81 oed, sy’n chwarae Ken Barlow yn y gyfres sebon, wedi gwadu’r cyhuddiadau’n swyddogol mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Preston heddiw.

Cafodd Roache ei arestio yn ei gartref yn Wilmslow, Sir Gaer ym mis Mai a’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o dreisio merch 15 oed yn Swydd Gaerhirfryn ym 1967.

Yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o bum ymosodiad anweddus ar bedair merch rhwng 11 a 16 oed, yr honnir iddyn nhw ddigwydd yn ardal Manceinion rhwng 1965 a 1968.

Fe fydd yr achos yn erbyn Roache yn cychwyn yn Llys y Goron Preston ar 14 Ionawr ac mae disgwyl iddo barhau am fis.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth amodol.

Ni fydd yn ymddangos yn Coronation Street nes bod yr achos yn ei erbyn wedi dod i ben.