Gareth Bale
Mae Real Madrid wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r Cymro Gareth Bale o Tottenham ar gytundeb chwe blynedd.

Wedi deufis o ddyfalu a thrafodaethau fe gyhoeddodd Madrid a Spurs nos Sul bod Bale yn symud i Sbaen.

Bale yw’r chwaraewr drutaf yn hanes y gamp ar ôl i Real Madrid dalu 100 miliwn ewro (£85.3 miliwn) amdano.

Fe fydd Gareth Bale, 24 oed, yn cael ei gyflwyno i dorf o gefnogwyr fel chwaraewr newydd Real Madrid yn Bernabeu amser cinio heddiw.

Dywedodd rheolwr Spurs Andre Villas-Boas eu bod yn dymuno pob llwyddiant iddo.

“Mae o’n chwaraewr gwych ac yn ein gadael gydag atgofion melys o’r tymor diwethaf. Ond mae o wedi symud ymlaen ac mae’n rhaid i ni symud ymlaen hefyd.”