Michael Laudrup, rheolwr yr Elyrch
West Bromwich Albion 0    :    2 Abertawe

Mae Abertawe wedi ennill eu gêm gyntaf yn yr Uwchgynghrair, a hynny oddi cartref.

Ben Davies wnaeth sgorio’r gôl gyntaf gyda Pablo Hernandez yn sgorio’r ail gôl saith munud o’r diwedd.

Mi roedd hi’n gêm gorfforol ac felly yn gêm brysur i’r dyfarnwr a ddangosodd saith o gardiau melyn. Ond roedd yr Elyrch yn edrych yn gyffyrddus yn yr ail hanner, ac mi roedden nhw’n haeddu’r fuddugoliaeth.

Tri phwynt pwysig sy’n eu codi o waelod y tabl. Prynhawn buddiol iawn i’r Elyrch.