Scunthorpe 1 :  1 Casnewydd

Andrew Hughes wnaeth sgorio i Gasnewydd i sicrhau gêm gyfartal iddyn nhw yn Scunthorpe.

Mi roedd hi’n ddechrau trychinebus i’r gêm i Gasnewydd pan sgoriodd Sam Winnall i Scunthorpe  cyn iddyn nhw gael cyfle i setlo.

Ond fe weithiodd Casnewydd yn galed ac fe sgoriodd Hughes o gic gornel i sicrhau eu bod nhw’n dychwelyd i Gymru gyda phwynt gwerthfawr.