Mae eisiau rhagor o sylw i enillydd Tlws y Cerddor er mwyn denu rhagor o gystadleuwyr.

Dyna mae un o’i feirniaid cystadleuaeth cyfansoddi’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg.

“Dyma ydi’r brif gystadleuaeth gyfansoddi yng Nghymru,” meddai Owain Llwyd, darlithydd yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor. “Mae wyth o gystadleuwyr yn nifer eitha’ pitw. Mae angen mwy o sylw i’r gystadleuaeth yn sicr. Pam ddim cael yr Orsedd i mewn yna, a mwy o sylw yn cael ei roi i’r enillydd?

“Mae nifer ohonon ni o’r un meddylfryd ac mae nifer o bobol yn cyd-weld gyda hynny. Efallai ei fod yn ddatblygiad y dylai ddigwydd.”

Cwt iâr

Mae Owain Llwyd hefyd yn feirniadol fod rowndiau terfynol y Rhuban Glas yn cael eu cynnal mewn “cwt iâr” yn y Pagoda, gyda sŵn allanol yn amharu ar y cystadlu.

“Mae angen i rywbeth gael ei wneud i’r adeilad yna ar gyfer cystadlaethau’r Rhuban Glas oherwydd mae’n annheg iawn i’r cystadleuwyr,” meddai.

Y stori’n llawn yng nghylchgrawn Golwg