Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymchwilio i gŵyn am safon cylfeusterau i’r anabl ar y maes carafanau.

Mewn llythyr at gylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Brian Hughes o Nefyn yn cwyno nad oedd dŵr i olchi dwylo mewn un toiled i’r anabl.

Wedi iddo gael ei anfon i doiled arall i’r anabl, mae’n dweud nad oedd dŵr poeth na golau yn hwnnw.

Bydd yr Eisteddfod yn ymchwilio i’r gŵyn.

“Rydan ni yn cael ambell i gŵyn bod dŵr ddim yn boeth,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Mae’n dibynnu lot ar faint o ddefnydd sy’n cael ei wneud o’r cawodydd a ballu…yn sicr, mi’r ydan ni’n ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu ar gyfer pobol ag anableddau.

“Mi fyddwn ni’n edrych i mewn i’r cwynion yma, ac mi wnawn ni roi adroddiad i Mr Hughes. Ac os oedd yna feiau, yna mi wnawn ni drio ein gorau i sicrhau na fyddan ni ddim yn ailadrodd y rheiny’r flwyddyn nesaf.”

Llythyr Brian Hughes yng nghylchgrawn Golwg