Georgia Ruth Williams
Mae’r enwebiadau ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn awgrymu bod mwy a mwy o artistiaid Cymraeg yn anelu at wneud argraff dros y ffin.
Does gan yr un o’r albymau ar y rhestr fer deitl Cymraeg a din ond dwy sy’n cynnwys caneuon Cymraeg – er fod rhai o’r artistiaid eraill wedi canu yn yr iaith.
Cymysgedd o ganeuon dwyieithog sydd ar recordiau cerddorion fel Georgia Ruth ar label Gwymon a Trwbador ar label Owlet ond dewis canu’n uniaith Saesneg y mae Little Arrow a Racehorses (Radio Luxembourg gynt).
Yr Enwebiadau
Yr enwebiadau eleni yw:
Euros Childs – Summer Special
Fist of the First Man – Fist of the First Man
Georgia Ruth – Week of Pines
Laurence Made Me Cry – The Diary of Me
Little Arrow – Wild Wishes
Metabeats – Caviar Crackle
Neon Neon – Praxis Makes Perfect
Racehorses – Furniture
Sweet Baboo – Ships
Trwbador – Trwbador
Winter Villains – February
Zervas and Pepper – Lifebringer
Y cefndir
Lawnsiwyd ‘Gwbor Gerddoriaeth Gymreig’ yn 2011 gan y DJ Radio Huw Stephens sydd yn cyflwyno ar Radio 1, a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron fel rhan o Ŵyl Sŵn, Caerdydd.
Pwrpas y wobr yw hybu a dathlu cerddoriaeth newydd o Gymru neu gan Gymry ac mae cyn enillwyr yn cynnwys Gruff Rhys (2011) a Future of the Left (2012).