Y llifogydd yn Llanelwy (Llun: PA)
Mae gwaith wedi dechrau ar glirio Afon Elwy er mwyn lleihau bygythiad i drigolion Llanelwy ar ôl y llifogydd drwg a drawodd y ddinas fis Tachwedd y llynedd.
Mae peirianwyr ar ran y corff amgylcheddol newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi dechrau ar raglen glirio wyth mis er mwyn cael gwared â rhwystrau o’r afon fel bod dŵr yn llifo ynghynt pan fydd llifogydd yn bygwth.
Dechreuodd peirianwyr glirio rhan o’r afon rhwng pont Spring Gardens a’r bont droed, Pont Begard ddydd Llun, ac mae disgwyl i’r gwaith ar y rhan yma or afon gymryd oddeutu deufis i’w gwblhau.
Ond mae’r Cynghorydd Dewi Owens, sy’n cynrychioli Dwyrain Llanelwy ar Gyngor Dinbych yn galw ar fwy i gael i’w wneud yn y tymor byr i ddelio â’r broblem.
Meddai, “Buaswn yn hoffi gweld mwy yn cael ei wneud i liniaru effaith llifogydd yn y tymor byr. Rhaid sicrhau nad yw’r math yma o lifogydd yn digwydd eto ac ein bod yn barod amdano. Rwy’n gobeithio bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwybod beth maent yn ei wneud.”
Y cefndir
Bu farw un person a cafodd dros 500 o dai eu heffeithio gan y llifogydd rhwng 26 a 27 Tachwedd, 2012. Cafodd cymunedau yn Sir Ddinbych ac ar draws Dyffryn Clwyd eu effeithio yn sgil y tywydd garw.
Dywedodd Tim Jones o Gyfoeth Naturiol Cymru, “Mae trigolion Llanelwy yn gwybod o’r gorau am yr effaith niweidiol y gall llifogydd ei gael, ac mae rhoi gwaith yma ar y gweill yn gam arall tuag at leihau perygl llifogydd ar gyfer rhannau o’r dref sydd ar dir isel.”