Nathan Cleverly - cyn-bencampwr bocsio
Mae Nathan Cleverly wedi colli ei deitl fel pencampwr bocscio trwm ysgafn y byd ar ôl gornest drychinebus iddo yng Nghaerdydd neithiwr.

Siom i’w filoeddd o gefnogwyr oedd gweld y Cymro 26 oed yn cael ei lorio ddwywaith yn y drydedd rownd gan y Rwsiad Sergey Kovalev a’r ornest yn dod i ben yn y bedwaredd rownd.

Meddai’r pencampwr newydd Kovalev:

“Doedd neb yn credu y gallwn i guro’r pencampwr ond roedd pawb arall yn y byd yn gwybod pa mor dda o’n i.

“Ro’n i’n gwybod na allan gymryd fy nerth. Roedd y ffaith fod yr ornest yn cael ei darlledu yn yr Unol Daleithiau’n bwysig iawn i mi.”