Sgoriodd Danny Welbeck ddwy gôl
Abertwae 1 – 4 Man UTD
Sgoriodd Robin Van Persie a Danny Welbeck ddwy gôl yr un wrth i Man UTD guro Abertawe’n gyfforddus yn Stadiwm Liberty heno.
Dechreuodd yr Elyrch yn dda, gan ddangos y digon o’r pasio celfydd sydd wedi dod yn adnabyddus ganddynt yn yr Uwch Gynghrair.
Er hynny, sgoriodd yr ymwelwyr wedi 34 gyda gôl wych gan eu prif sgoriwr llynedd, Van Persie, cyn i Welbeck ychwanegu’r ail ddwy funud yn ddiweddarach.
Gyda deunaw munud yn weddill, seliodd Van Persie y fuddugoliaeth gyda gôl unigol wych.
Daeth ymosodwr newydd Abertawe, Wifried Bony, i’r maes a bachu gôl yn ôl i’r Elyrch 8 munud o’r diwedd, ond United a Welbeck oedd a’r gair olaf wrth i Rooney basio trwy’r amddiffyn i’r ymosodwr ifanc godi’r bêl i’r rhwyd dros ben Michel Vorm.