Dug a Duges Caergrawnt
Wrth ymweld â Sioe Môn heddiw, mae Dug Caergrawnt wedi cadarnhau y bydd yn gadael Cymru pan fydd ei gyfnod gyda’r Awyrlu yn y Fali yn dod i ben fis nesaf.

Mae’r Tywysog bron a chwblhau tair blynedd fel peilot hofrenyddion gyda’r Awyrlu ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i Lundain gyda’i wraig Kate a’i fab y Tywysog George. Mae’n debyg y bydd yn gwneud mwy o ddyletswyddau brenhinol.

Roedd y Dug, 31, wedi diolch yn Gymraeg am y croeso cynnes y cafodd ef a’i wraig ar Ynys Môn.

“Rwy’n gwybod fy mod yn siarad ar ran Catherine pan ddyweda’ i nad ydw i erioed yn fy myw wedi adnabod rhywle mor brydferth ac mor groesawgar ag Ynys Môn.

“Mae’r golygfeydd ar draws y Fenai, heb os, ymhlith y rhai mwyaf trawiadol ar Ynysoedd Prydain. Rwy’n gwybod y bydd y ddau ohonom yn hiraethu am y lle pan fydd fy nghyfnod gyda’r Awyrlu yn dod i ben a bydd yn rhaid symud i rywle arall.”

Wrth wneud jôc am ei fab, dywedodd y Dug: “Ro’n i’n meddwl bod gwaith chwilio ac achub yn Eryri yn her gorfforol a meddyliol, ond mae edrych ar ôl babi tair wythnos oed yr un mor heriol.”

Mae disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol William o fewn yr wythnosau nesaf – mae’n debyg o gael ei anfon yn ôl i wasanaethu gyda’i gatrawd yn Llundain.