Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o gipio a threisio plentyn.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog bod dyn 25 oed o Bradford yn cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn diflaniad merch 13 oed oedd wedi bod ar goll ers wythnos.

Cafwyd hyd i’r ferch ysgol wythnos ar ôl iddi ddiflannu.

Nid yw’r ferch wedi cael dychwelyd at ei theulu ac mae’n parhau i helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Cafodd y dyn ei arestio yn Sheffield ar amheuaeth o dreisio a chipio plentyn ac mae’n cael ei holi gan yr heddlu ar hyn o bryd.”

Mae pump o bobl – pedwar dyn a dynes – yn parhau i fod ar fechnïaeth yr heddlu tan ddiwedd mis Medi.