Mae coeden oedd ar fin marw allan yn ei chynefin brodorol ar Yr Ynysoedd Dedwydd (Canary Islands), wedi blodeuo yng Nghymru am y tro cyntaf ers 25 o flynyddoedd.

Yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin mae pigyn blodeuog ar y goeden Dracaena draco.

Cred y botanegwyr ei bod wedi blodeuo oherwydd y tywydd poeth diweddar.

Gallai’r pigyn blodeuog dyfu hyd at bedair troedfedd o daldra a chynnwys blodau bach gwyn neu felyn.

“Ni fyddai’n blodeuo fel arfer yn ein hinsawdd ni gan ei bod dipyn oerach na’r Ynysoedd Dedwydd,” eglura’r garddwr Marilla Burgess.

“Ond mae’n debyg bod y tywydd poeth diweddar wedi achosi’r blodeuo hanesyddol, canol-oed hwn.”

Roedd y goeden Dracaena draco eisoes yn 25 oed pan gafodd ei phlanu yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol 15 mlynedd yn ôl.