Byddai defnyddio mwy o Gymraeg “bob dydd” ar deledu, radio ac ar y We yn codi hyder siaradwyr yr iaith, yn ôl ymchwilwyr.
Mae Llywodraeth Cymru, y BBC ac S4C wedi comisiynu’r gwaith ymchwil sy’n dangos bod pobol yn dewis peidio â siarad Cymraeg am eu bod ofn gwneud camgymeriadau.
Yn ôl y gwaith ymchwil roedd pobol ifanc yn llai tebygol na’r rhai hŷn o siarad yr iaith.
Cafodd 483 o bobol eu holi, gydag 84% yn dweud y bydden nhw’n croesawu’r cyfle i ddefnyddio mwy o Gymraeg a 61% eisiau siarad gwell Cymraeg.
Mae codi hyder y bobol yma’n bwysig, yn ôl yr ymchwilwyr, a byddai modd gwneud hynny drwy gael Cymraeg “bob dydd” ar y radio, y teledu a’r We.