Bannau Brycheiniog
Fe fydd angladd un o’r tri milwr fu farw ar ôl bod yn ymarfer ym Mannau Brycheiniog yn cael ei gynnal yn Llandudno heddiw.
Bu farw’r Is-gorpral Craig John Roberts, 24, o Fae Penrhyn ger Llandudno yn ystod sesiwn hyfforddi’r Fyddin Diriogaethol ar gyfer yr SAS, ar 13 Gorffennaf, un o ddyddiau poetha’r flwyddyn.
Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandudno am 1.45pm gydag anrhydeddau milwrol llawn.
Fe fydd gwasanaeth preifat yn dilyn ar gyfer teulu a ffrindiau yn Amlosgfa Bae Colwyn.
Roedd Edward John Maher hefyd wedi marw oriau’n ddiweddarach yn dilyn y sesiwn ymarfer a chafodd milwr arall, y Corporal James Dunsby, 31, ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ond bu farw bythefnos yn ddiweddarach.
Cwest
Mewn cwest i farwolaeth Edward John Maher a Craig Roberts ym Mhowys, dywedodd y crwner bod archwiliadau post mortem wedi methu a nodi beth achosodd marwolaeth y ddau filwr.
Yn ôl llygad dystion roedd dau filwr wedi cael eu gweld yn apelio am ddŵr.
Bu farw’r Is-gorpral Craig Roberts ar y mynydd am 5.15yh tra bod Edward Maher wedi marw tair awr yn ddiweddarach yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y bydd rhagor o brofion yn cael eu cynnal i ddarganfod sut y bu farw’r ddau.
Yn sgil eu marwolaethau, mae ymchwiliadau ar y gweill gan yr heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch. Fe fydd crwner Powys Louise Hunt hefyd yn lansio ymchwiliad ei hun.