Cafodd gyrrwr beic modur ei anafu’n ddifrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gyda char ym Mhen-y-bont ar Ogwr bnawn dydd Mercher.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A473 ger Heol y Bontfaen tua 4.30yh ddoe.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru lle mae mewn cyflwr difrifol.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain rhwng y beic modur coch Lifan a’r car Nissan Almera gwyrdd i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.