Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi beirniadu cynlluniau i gosbi rhieni os ydy eu plant yn absennol o’r ysgol yn gyson oherwydd triwantiaeth, gan ddweud nad oedd yr un tyst yn cefnogi’r cynlluniau.
Fe fydd y mesurau, yn golygu bod gan brifathrawon, yr heddlu a chyrff eraill y gallu i godi dirwy o £120 ar rieni o fis Medi.
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi gan y cyn Weinidog Addysg Leighton Andrews ym mis Mai. Fe allai rhieni gael eu cosbi os ydy eu plant yn triwantio, yn cymryd gwyliau’n gyson yn ystod tymor yr ysgol neu’n cyrraedd yn hwyr i’r ysgol yn rheolaidd.
Yn ôl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc mae angen gwneud mwy o gynnydd i wella presenoldeb ac ymddygiad disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “lunio strategaeth presenoldeb ac ymddygiad cenedlaethol gyffredinol i ddatblygu’r arfer da sy’n bodoli eisoes.”
Yn yr adroddiad, dywed y Pwyllgor eu bod “yn siomedig, er bod sylw wedi’i roi i faterion sy’n ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad disgyblion, y bu’r cynnydd yn anghyson a bod problemau o hyd y mae angen mynd i’r afael â hwy.”
Nododd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc anghysonderau yn nulliau gweithio y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ac, er ei fod yn derbyn nad oes ateb sy’n addas i bawb, mae’n credu nad oes digon yn cael ei wneud i rannu’r arfer gorau.
Mae’n argymell y dylid archwilio buddion “cael model consortia rhanbarthol fel sbardun addas ar gyfer sicrhau newid o’r fath.”
Yn ogystal â chlywed gan ystod o sefydliadau, cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda 181 o blant a phobl ifanc rhwng naw a 23 oed o bob rhan o Gymru.
Dywedodd Lynne Neagle AC, aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r system bresennol, sef, mewn gwirionedd, 22 o gynlluniau gwahanol i wella’r safonau hyn, yn anghyson ac mae perygl y caiff cyfleoedd eu methu, felly rydym yn annog awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud mwy i rannu enghreifftiau o arfer gorau.
“Rydym hefyd yn pryderu ynghylch y dulliau amrywiol o ddarparu hyfforddiant a chymorth i athrawon ar reoli ymddygiad gwael ac rydym wedi argymell y dylai technegau sy’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn rhan o hyfforddiant cychwynnol pob athro a’i ddatblygiad parhaus.”
Argymhellion
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
– Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth presenoldeb ac ymddygiad genedlaethol gyffredinol sy’n datblygu’r arfer da sy’n bodoli eisoes ac y gellir monitro cynnydd yn ei herbyn yn rheolaidd.
– Dylid rhoi mwy o bwyslais ar hyfforddiant rheoli ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn hyfforddiant cychwynnol athrawon. Dylai modiwlau rheoli ymddygiad disgyblion sy’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn elfen graidd mewn datblygu proffesiynol parhaus hefyd; a,
– Dylai’r model consortia rhanbarthol gael rôl sydd wedi’i ddiffinio’n well o ran gwella presenoldeb ac ymddygiad disgyblion.