Y Gweinidog Addysg Huw Lewis
Mae’r llywodraeth yn bwriadu asesu effeithiolrwydd addysg blynyddoedd cynnar plant yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, y bydd archwiliad o’r Cyfnod Sylfaen – rhaglen addysg ar gyfer plant o 3 i 7 oed – yn edrych ar sut mae’n cael ei gweithredu ar lawr gwlad a sut y gellir ei chryfhau.

Y nod fydd gwella ansawdd y ddarpariaeth a’i gwneud yn fwy cyson.

Mae’r Athro Iram Siraj-Blatchford o Brifysgol Llundain, arbenigwraig flaenllaw yn y maes, wedi cael ei phenodi i wneud y gwaith.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae’n hanfodol bod pethau’n iawn yn y blynyddoedd cynnar er mwyn i’n pobl ifanc gael y cyfle i wireddu eu potensial yn llawn.

“Mae’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn destun balchder inni, ac mae wedi ennyn parch gan rieni ac ymarferwyr addysg fel ei gilydd. Serch hynny, mae gennym gyfrifoldeb i’n holl ddysgwyr ifanc i sicrhau bod darpariaeth y cyfnod hwn o’r safon uchaf posibl ar lawr gwlad.

“Dw i wrth fy modd bod yr Athro Blatchford wedi cytuno i gyflawni’r gwaith hwn imi. Mae ganddi wybodaeth ac arbenigedd helaeth ym maes y Cyfnod Sylfaen, ac ar ben hynny, mae ganddi ddealltwriaeth drylwyr o’r system addysg yng Nghymru.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael y cyfle i ystyried ei chasgliadau.”

Fe fydd yr archwiliad yn dechrau ym mis Medi ac yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.