Ian Jones, prif weithredwr S4C
Mae pennaeth S4C wedi rhybuddio eu bod yn wynebu brwydr arall yn erbyn toriadau posib ac y byddai rhagor o gwtogi yn “torri’r gwasanaeth i’r byw”.
Mae Ian Jones hefyd wedi rhoi awgrym pendant y bydd y sianel yn symud rhagor o’i staff allan o Gaerdydd yn y dyfodol.
“Mae angen rhagor o waith caled, rhagor o gydweithio a rhagor o berswâd i warchod pob ceiniog at y dyfodol,” meddai’r Prif Weithredwr ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.
‘I’r byw’
Dim ond tan 2016 y mae’r arian sy’n dod gan y Llywodraeth wedi ei warchod ac roedd yn cydnabod y byddai’n rhaid brwydro i gadw hynny – tua 10% o gyllideb y sianel.
“A ninnau eisoes wedi colli 36% o’n cyllid mewn termau real ers 2010, byddai unrhyw doriadau pellach yn niweidiol i’r economi ac yn torri’r gwasanaeth craidd i’r byw.”
A’r sianel ar ganol ystyried lle y dylai ei swyddfeydd fod, roedd Ian Jones yn awgrymu’n gry’ y byddai’r arolwg yn arwain at newid ac y byddai’r trefniadau newydd “yn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol”.