Llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC
Roedd Llafur eisoes yn cynllwynio i gau ysbytai cyn i’r llywodraeth glymblaid rhyngddi a Phlaid Cymru ddod i ben yn 2011.

Dyna yw honiad Plaid Cymru yn sgil tystiolaeth a ddaeth i’w meddiant am ohebiaeth a fu rhwng yr Athro Marcus Longley ym Mhrifysgol Morgannwg a swyddogion iechyd Cymru ym mis Ionawr 2011.

Roedd yr Athro Longley wedi cael ei gomisiynu’n swyddogol gan Lywodraeth Cymru’r llynedd i baratoi argymhellion ar gyfer diwygio’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Fe wnaeth adroddiad yr Athro, yr Achos dros Newid, arwain at ffrae wleidyddol fawr y llynedd yn sgil amheuon fod Llywodraeth Cymru wedi dylanwadu ar ei gynnwys.

Codi cwestiynau pellach

Dywed Plaid Cymru fod eu tystiolaeth fod gohebiaeth rhwng yr Athro a swyddogion iechyd Cymru flwyddyn cyn cael ei gomisiynu’n swyddogol yn codi cwestiynau pellach ar annibyniaeth yr adroddiad.

“Mae’r dogfennau sydd gennym yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n gweithio ar yr adroddiad i hybu newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru cyn belled yn ôl â mis Ionawr 2011 o leiaf,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones AC.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos na fu’r adroddiad hwn erioed yn annibynnol, a bod Llywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm â hyn o’r cychwyn, gan wneud penderfyniad gwleidyddol i ganoli gwasanaethau ysbytai.”

Ychwanegodd fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod gweision sifl yn 2011 neu ynghynt eisoes yn paratoi am newid llywodraeth. Mae hyn oherwydd fod cytundeb Cymru’n Un rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar y pryd wedi amddiffyn gwasanaethau mewn ysbytai dosbarth cyffredinol.