Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi lansio app newydd ar ei ymweliad i’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Mae Ap Llyfrau Cymru wedi cael ei ddylunio er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o lyfrau digidol o Gymru.
Mae’r ap yn ganlyniad ffrwyth llafur rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn ogystal â bod ar gael drwy declynnau Android ac Apple, mae trydydd fersiwn ar gael ar wefan gwerthu llyfrau, Gwales.
Mae Carwyn Jones wedi croesawu’r ap gan ddweud bod datblygiadau fel hyn yn bwysig er mwyn i’r iaith Gymraeg “ffynnu yn yr oes ddigidol.”
Mae pedwar cyhoeddwr – Atebol, Canolfan Astudiaethau Addysg, graffeg a’r Lolfa – yn rhan o’r cynllun peilot ond maes o law bydd cyfle i gyhoeddwyr eraill ymuno a’r cynllun gyda chwsmeriaid yn gallu lawrlwytho’r ap am ddim cyn talu am deitlau unigol.
Mae marchnad e-lyfrau yn un sy’n tyfu ac sy’n debygol o barhau i dyfu.
“Erbyn hyn, mae yna dros 750 o e-lyfrau ar wefan Gwales,” meddai Phil Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo Cyngor Llyfrau Cymru.
“Y cam nesaf naturiol i’r Cyngor yw manteisio ar y cynnydd yn y galw am Apps Cymraeg, a chynorthwyo’r cyhoeddwyr i ddarparu teitlau electronig ac iddynt gynnwys mwy cyfoethog.”