Mae ffigurau gwrando diweddara’ Radio Cymru’n dangos gwerth caneuon Cymraeg i’r orsaf.

Dyna honiad yr asiantaeth hawliau darlledu Eos sydd ynghanol anghydfod gyda Radio Cymru tros daliadau i gyfansoddwyr.

Fe gododd ffigurau’r chwarter’ diwetha’ o gymaint â 22,000 o wrandawyr o’i gymharu â dechrau’r flwyddyn, pan oedd aelodau Eos wedi gwahardd defnydd o’u gwaith.

Y ffigurau hynny oedd y gwaetha’ erioed yn hanes yr orsaf.

Dim Eos – ‘ffigurau’n cwympo’

“Mae o’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn,” meddai Dafydd Roberts o Eos. “Mae o’n dangos gwerth y repertoire Cymraeg i’r BBC.

“Am chwech wythnos o’r chwarter cynta’, doedden nhw ddim yn gallu darlledu cerddoriaeth Eos ac mi syrthiodd y ffigrau i’r lefel isa’ erioed. Yn yr ail chwarter, pan oedd y gerddoriaeth ar gael, mi gododd y ffigurau.”

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dangos annhegwch y sefyllfa, meddai Dafydd Roberts – fe all bardd gael £17 am hanner munud os bydd darn adrodd yn cael ei ddarlledu, ond dim ond 25c y funud am eiriau cân.

Arian gan y BBC

Fe gadarnhaodd Dafydd Roberts fod Eos wedi derbyn ail gyfraniad o £50,000 er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer tribiwnlys a fydd yn torri’r ddadl ym mis Medi.

Mae £15,000 yn mynd at greu adroddiad gan arbenigwr am werth ariannol y gerddoriaeth i’r orsaf a £35,000 ar logi cyfreithiwr a bargyfreithiwr.

Heb yr arian, meddai, fe fyddai Eos wedi gorfod cynrychioli eu hunain.