Maes yr Eisteddfod heddiw
Cyngerdd cynta’r Eisteddfod eleni oedd un o’r mwya’ llwyddiannus ers dechrau’r drefn o agor yr ŵyl ar nos Wener.
Roedd y tocynnau i gyd wedi gwerthu ar gyfer y dathliad o waith y cyfansoddwr, Robat Arwyn, sy’n byw yn Nyffryn Clwyd.
“Yr hyn oedd yn dda oedd fod cymaint o bobl leol yno, ar y llwyfan ac yn y gynulleidfa,” meddai Swyddog Gwasg yr Eisteddfod, Gwenllian Carr.
Mae’r diwrnod cynta’n argoeli’n dda hefyd gyda’r tywydd yn well na’r disgwyl.