Rhan o un o fframiau'r ffilm
Mae bron hanner y gweithiau yn arddangosfa gelf yr Eisteddfod Genedlaethol gan artistiaid sy’n dangos yno am y tro cynta’.

A dyna yw enillwyr y ddwy brif wobr – Theresa Nguyen am Grefft a Josephine Sowden am Gelfyddyd Gain

Yn ôl Josephine Sowden, sydd wedi penderfynu datblygu ei gyrfa yng Nghaerdydd, mae Cymru’n lle ardderchog i artistiaid gan gynnig “cefnogaeth wych” i rai fel hi, “sy’n dechrau dod i’r amlwg”.

Croesawu gwaed newydd

Roedd y ffaith bod artistiaid newydd eisiau dangos yn galonogol, meddai Swyddog Celf yr Eisteddfod, Robyn Tomos.

Mae’r ddwy hefyd yn dangos amrywiaeth cefndir – un yn dod o Loegr ond yn gweithio yng Nghymru a’r llall o dras Fietnamaidd, wedi ei geni yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr.

Enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

“Gweledigaeth unigryw” a “soffistigeiddrwydd mawr” a ddaeth â’r wobr gelf i Josephine Sowden, sy’n dod yn wreiddiol o Wlad yr Haf ond bellach yn gweithio yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl y bydd trafod a dadlau am y ffilm sy’n dangos y gofidiau a’r pryderon sy’n rheoli ein meddyliau ni.