Un o'r gweithiau buddugol
Un o bobol y cychod o Fietnam yw enillyd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe gafodd Theresa Nguyen ei geni yn y Bermo, flwyddyn ar ôl i’w theulu orfod dianc o Fietnam a chael eu hachub gan gapten tancer olew Brydeinig. Fe gawson nhw loches yng Nghymru.
“Fe fydd fy nheulu a finnau wastad yn ddiolchgar i bobol Cymru am roi lloches i ni a chynnig cyfle i ni greu bywydau newydd yng Nghymru,” meddai’r gof arian sydd bellach yn byw yn Birmingham.
‘Cariad a chroeso’
“Mi ddangoswyd y fath gariad a chroeso i mi gan y Cymry. Nid yn unig y mae ennill y wobr hon wedi fy ail-gysylltu gyda hanes fy nheulu a’u siwrnai o Fietnam ond hefyd gyda bro fy mebyd.”
Fe enillodd y wobr o £5,000 am waith oedd, yn ôl y beirniaid, yn dangos “manylder perffaith” ac sydd wedi ei ysbrydoli gan natur.
Mae hi’n defnyddio morthwyl i siapio’r metel ac mae hynny’n anghyffredin bellach.
Pobol y cychod
Roedd cannoedd o filoedd o bobol wedi dianc ar gychod o Dde Fietnam a rhai gwledydd cyfagos yn sgil Rhyfel Fietnam ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au.
Fe ddechreuon nhw adael ar ôl i brifddinas y De, Saigon, syrthio i ddwylo’r Gogledd, gan fentro’u bywydau ar longau simsan.
Yn ôl rhai amcangyfrifon, fe fu farw rhwng 200,000 a 400,000 yn y broses.