Gary Slaymaker - cyflwynydd Golwg Go Whith
Bydd noson gomedi anarferol yn cael ei chynnal yn Theatr Felin-fach fel rhan o ŵyl i nodi chwarter canrif o gyhoeddi cylchgrawn Golwg ar 5 Medi.

‘Golwg Go Whith’ fydd enw’r cwis dychanol fydd yn edrych nôl ar rai o’r penawdau, erthyglau a lluniau sydd wedi ymddangos yng nghylchgrawn Golwg dros y 25 mlynedd diwethaf.

Gary Slaymaker yw’r cwis feistr fydd yn ceisio cadw trefn ar ddau dîm fydd yn cynnwys rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y cyfryngau Cymraeg.

Tasg Ifan Gruffydd, Eirlys Bellin, Ifan Jones Evans, Aeron Pugh, Heledd Cynwal ac Iwan John fydd ceisio gosod yr eitemau archif mewn cyd-destun … boed hynny’n gyd-destun cywir neu beidio!

Golwg ysgafn ar archif

“Mae’n bwysig nodi achlysur chwarter canrif y cylchgrawn materion cyfoes, Golwg, a bydd y noson yma’n ffordd ysgafn o wneud hynny” meddai Gary Slaymaker.

“Mae pawb yn gyfarwydd â chwisiau panel dychanol fel Have I Got News For You a Mock The Week, a bydd Golwg Go Whith yn efelychu rhaglenni fel rhain i raddau, ond mewn ffordd Gymreig iawn.”

“Does dim amheuaeth fod comedi Cymraeg ar gynnydd ar hyn o bryd a bydd y noson yma’n ffordd difyr o’i gyflwyno i gynulleidfa. Gobeithio y bydd yn ffordd ddoniol a hwyliog o gyflwyno peth o archif y cylchgrawn i bobl hefyd!”

Y noson gomedi yn Felin-fach fydd yn agor penwythnos o weithgareddau Gŵyl Golwg, gyda gig yn Neuadd y Celfyddydau’r Brifysgol ar nos Wener 6 Medi, ac amrywiaeth eang o weithgareddau ar gampws y Brifysgol ar ddydd Sadwrn 7 Medi.


Cowbois Rhos Botwnnog
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfrif twitter yr ŵyl mai Cowbois Rhos Botwnnog, Bob Delyn a’r Ebillion, Elin Fflur, Bromas a Mellt fydd yn perfformio yn gig Gŵyl Golwg ar y nos Wener.

Mae llawer o arlwy’r ŵyl eisoes wedi’i gyhoeddi ac ar gael i’w weld ar wefan gwylgolwg.com. Bydd gweddill yr arlwy’n cael ei gyhoeddi’n raddol dros y bythefnos nesaf.