Cofeb i nodi glaniad y Cymry yn Puerto Madryn, Patagonia
Mae paratoadau ar y gweill i drefnu dathliadau arbennig yn 2015 i nodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymraeg yn Patagonia.

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau o geisio denu diddordeb a chefnogaeth amrywiaeth eang o sefydliadau a mudiadau yng Nghymru.

Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymweld â stondin Cymdeithas Cymru Ariannin ar faes yr Eisteddfod am 11 ddydd Llun i ddatgan ei gefnogaeth i’r dathiadau.

“Mae ymweliad y Prif Weinidog yn fraint ac yn werthfawr iawn i ysgogi rhai i fod yn rhan o’r dathlu yn ystod 2015,” meddai Marc Philips, llywydd y pwyllgor dathlu.

Yr wythnos yma hefyd, mae dyn sy’n wreiddiol o Comodoro Rivadavia yn Patagonia’n cychwyn ar ei waith fel cydlynydd y dathliadau.

Fe fydd Walter Brooks, sy’n byw yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd, ar y stondin ddydd Llun a dydd Iau.

“Mae 2015 yn prysur agosau a dw i’n edrych ymlaen at y dathlu’n fawr iawn,” meddai. “Mae digon o syniadau ar y gweill, ac fe fyddwn ni’n croesawu unrhyw syniadau newydd neu i bobl alw i mewn atom am sgwrs.”

Cofio dathliadau 1965

Gobaith y trefnwyr yw cynnal blwyddyn o ddigwyddiadau a chael dathliadau ar raddfa debyg i’r hyn a gafwyd yn 1965 i nodi canmlwyddiant y Wladfa.

Bryd hynny, teithiodd 73 o ‘bererinion’ o Gymru i Patagonia i nodi hanes y 150 o’r ymsefydlwyr gwreiddiol gan mlynedd ynghynt.

Fe fu dathliadau ledled talaith Chubut ac yn Buenos Aires am dair wythnos, a chafodd mintai fechan o Wladfawyr ifanc eu gwahodd i Gymru i ddysgu am wlad eu teidiau.

“Bu’r ail-gysylltiad hwn gyda phobl y Wladfa’n allweddol wrth greu diddordeb o fewn y ddwy wlad ac yn symbyliad i ddisgynyddion y Gwladfawyr ail-ymddiddori yn eu tras a’u gwreiddiau,” meddai Hywel Roberts o Gymdeithas Cymru Ariannin.