Y Prif Weinidog David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi penodi un o gefnogwyr blaenllaw Barack Obama fel ymgynghorydd i’r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad cyffredinol 2015.

Fe fydd Jim Messina yn cynghori’r Torïaid ar gyfathrebu strategol, gan gynnwys y defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, ond ni fydd yn cael dylanwadu ar bolisïau.

Jim Messina oedd rheolwr ymgyrch lwyddiannus Barack Obama i gael ei ailethol yn arlywydd America ym mis Tachwedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Torïaid y bydd yn gweithio gyda strategydd yr ymgyrch, Lynton Crosby, a dau gyd-gadeirydd y blaid, Grant Shapps a’r Arglwydd Feldman.

Drwy fod y Ceidwadwyr yn draddodiadol â chysylltiadau agosach â’r Gweriniaethwyr yn America, mae dyfalu y gall llwyddiant David Cameron i ddenu Democrat mor flaenllaw fod yn ergyd i arweinydd Llafur, Ed Miliband.