Mae bydwraig wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr nyrsio heddiw ar ôl nifer o fethiannau wnaeth arwain at farwolaeth bachgen bach.

Cafwyd Julie Richards yn euog o gamymddwyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fis diwethaf wedi i fabi bach farw ddeng mis ar ôl cael ei eni. Roedd hi hefyd wedi wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn yn gysylltiedig â dau glaf arall.

Roedd Julie Richards wedi trin Noah Tyler a’i fam, Colleen, yn Ysbyty’r Brifysgol, Caerdydd, yn 2011. Ond fe wnaeth y babi dioddef difrod di-droi’n ôl i’w ymennydd – a’r fydwraig oedd yn gyfrifol am hynny, ar ôl methu â sylwi ar ei guriad calon peryglus o gyflym, yn ôl y gwrandawiad.

Yn un o’r achosion eraill, fe gafodd ei beirniadu am beidio sylwi ar bwysedd gwaed uchel, ac am beidio cadw cofnodion.

Heddiw, dywedodd cadeirydd y panel o Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Richard Davies, eu bod nhw’n cydnabod bod Julie Richards wedi dangos edifeirwch ond mai ei gwahardd rhag gweithio yn y maes oedd yr unig opsiwn addas iddyn nhw o dan yr amgylchiadau.