Llys y Goron Abertawe
Mae ditectif gyda Heddlu De Cymru wedi ei gael yn euog o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.

Cafwyd Jeffrey Davies, 42, yn euog o ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferched oedd wedi dod ato i adrodd am droseddau.

Fe’i cafwyd yn ddieuog o un cyhuddiad o ddinoethiad anweddus yn erbyn dynes arall.

Cafodd y troseddau eu cyflawni yn 2010.

Roedd Jeffrey Davies yn gweithio fel ditectif  gyda Heddlu De Cymru ym Merthyr Tudful adeg yr ymosodiadau.

Roedd Davies wedi cael ei wahardd o’i swydd tra bod yr achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe.

Cafodd Davies ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 15 Awst. Dywedodd y barnwr Paul Thomas QC ei fod eisiau cyfnod i feddwl cyn dedfrydu Davies ond fe rybuddiodd ei fod yn wynebu cyfnod yn y carchar pan fydd yn dychwelyd i’r llys.

‘Ffiaidd’

Wrth ymateb i’r dyfarniad heddiw dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Lewis o Heddlu De Cymru: “Roedd Jeffrey Davies mewn sefyllfa lle’r oedd y gymuned yn ymddiried ynddo ond fe fradychodd y ffydd yna gyda’i ymddygiad troseddol. Mae ei weithredoedd yn gwbl annerbyniol a ffiaidd.”

Ychwanegodd bod Davies wedi cyflawni’r troseddau yn erbyn marched pan oedden nhw’n “fregus ac yn wynebu trawma personol eu hunain.”

“Roedd gweithredoedd y plismon yma yn gamddefnydd aruthrol o’i bŵer ac ni fydd ymddygiad o’r fath  yn cael ei dderbyn o fewn yr heddlu. Mae’r ymchwiliad yn dangos ein bod yn benderfynol o ddelio’n llym â’r math yma o ymddygiad,” meddai Richard Lewis.