Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ifanc gael ei ladd ac un arall ei anafu’n ddifrifol mewn damwain car ger Pen y Bont nos Fercher.

Digwyddodd y ddamwain toc wedi 7.25yh pan adawodd car Peugeot 205 ffordd yr A488 rhwng Dolau a Phen y Bont.

Bu farw dyn ifanc yn ei ugeiniau yn y fan a’r lle a chafodd dyn 21 oed ei gludo i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu oedd yn dyst i’r ddamwain i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd Aberhonddu ar 101.