Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad sylweddol yn eu gwasanaethau ar-lein yn y Gymraeg gyda chynllun i ddatblygu gwasanaeth newydd o’r enw Cymru Fyw.

Bydd Cymru Fyw yn cael ei lansio fel cynllun peilot am gyfnod o ddwy flynedd a bydd ar gael ar bob llwyfan gan gynnwys cyfrifiaduron desg, ffonau symudol a thabledi.

Prif nodweddion y gwasanaeth newydd fydd darparu cynulleidfaoedd â’r newyddion diweddaraf ar hyd a lled Cymru, blog a fydd yn darparu newyddion, chwaraeon materion celfyddydol, gwleidyddiaeth a thywydd, ynghyd ag eitemau nodwedd ac erthyglau barn.

Mae disgwyl i’r gwasanaeth newydd gael ei lansio dros y misoedd nesaf a bydd chwech o swyddi newydd yn cael eu creu yn sgil y buddsoddiad yma.

‘Buddsoddiad cyffrous’

Dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd: “Mae Cymru Fyw yn fuddsoddiad cyffrous a sylweddol mewn gwasanaeth ar-lein yn Gymraeg a bydd yn cynnig darpariaeth mwy amserol ac unigryw i ddefnyddwyr.

“Bydd Cymru Fyw yn helpu defnyddwyr i wneud y gorau o’r cynnwys sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg ac adnoddau eraill sy’n berthnasol iddynt, ar draws y rhyngrwyd.”

Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos fod cynnydd o 50% wedi bod yn y nifer sy’n ymweld â gwefannau Cymraeg y BBC. Mae’r gorfforaeth hefyd wedi penderfynu canolbwyntio’r buddsoddiad newydd ar bum maes penodol yn ogystal â Chymru Fyw, sef BBC Radio Cymru ar-lein, BBC iPlayer, Dysgu a CBeebies.